Neidio i'r cynnwys

TFW Graduates Gweld trawsgrifiad

Fy enw i ydy Abbie, a dw i ar y cynllun graddedigion risg.

Fy enw i ydy Ali a dw i wedi dechrau ar y cynllun graddedigion cyllid gyda Trafnidiaeth Cymru Y prif beth wnaeth fy nenu at Trafnidiaeth Cymru yw'r cynllun sy'n gynllun graddedigion risg.

Dw i'n ei chael hi'n hynod ddiddorol bod posib rhagweld digwyddiadau'r dyfodol a mesur risg trwy fathemateg. Dw i'n caru mathemateg.

Astudiais gyfrifeg a chyllid ym Mhrifysgol Caerdydd a graddio yn 2016.

A’r rheswm i mi wneud cais i Trafnidiaeth Cymru oedd am fy mod i wedi gweld llawer o newid yn digwydd, finnau’n byw yng Nghaerdydd a fy rhieni o Gasnewydd.

Felly yn byw yn yr ardaloedd hynny, dw i wedi gweld newidiadau yn digwydd yn y gorsafoedd a phethau felly.

Felly roeddwn i eisiau bod yn rhan o'r newid hwnnw a helpu Cymru i symud i'r cyfeiriad hwnnw o deithio cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Mae'r cynllun wedi'i strwythuro dros ddwy flynedd.

Bydd amrywiaeth o wahanol weithdai a setiau dysgu.

Ffocws ar wahanol bethau, megis arweinyddiaeth, hyfforddi, rheoli prosiectau…

Felly Diwrnod 1, dechreuais gan gyrraedd y swyddfa am 9yb a gosododd y tîm TG ein gliniaduron ni, ein ffonau, yr holl offer yr oedd ei angen arnom.

Cefais sesiynau sefydlu yn y bore.

Cawsom sgwrs am bolisi AD, hyfforddiant, ac unrhyw gwestiynau cyffredinol am ddod i mewn i'r swyddfa, gweithio gartref, ac yna cyfarfodydd gyda fy rheolwr ac ychydig o'r bobl eraill y byddwn i'n gweithio gyda nhw.

Ac yna cawsom hefyd raglen sefydlu iechyd a diogelwch a sesiwn sefydlu gyda'r tîm cyfathrebu.

Felly llond bore ar y bore cyntaf.

Fe wnes i gais am docyn teithio staff, sy'n beth da iawn, iawn.

Dw i'n edrych ymlaen at gael fy nhocyn teithio - trenau am ddim o fewn Cymru!

Mae pawb yn hynod groesawgar ac yn hapus iawn fy nghael i yn eu plith.

Hoffwn aros gyda'r sefydliad hwn am fy mod i wir, o fy mhrofiad hyd yn hyn, yn hoff iawn o'r diwylliant.

Mae'r swyddfa yn amlwg yn braf iawn hefyd.

Adeilad newydd, popeth yn newydd sbon, yn berffaith lân.

Roedd hynny'n gyffrous a phopeth yn braf a ffres a newydd sbon.

Roedd y tîm mor groesawgar.

Y diwylliant yw'r prif beth.

Mae pawb wedi bod yn gefnogol ac yn barod i helpu drwyddi draw.

a dw i'n teimlo bod hynny'n rhywbeth a fydd yn parhau.

Oherwydd ei fod yn teimlo fel bod hynny'n rhan o ddiwylliant y cwmni y maen nhw'n ymdrechu ei hyrwyddo.

Ydw, dw i'n teimlo bod y gefnogaeth eisoes yn aruthrol.

Dw i'n teimlo bod y tîm a'r sefydliad wir eisiau buddsoddi ynom ni graddedigion i fod yn llwyddiannus - i fod yn arweinwyr y dyfodol mewn ffordd.

Dw i'n llawn cyffro i gael cwrdd â phobl a gweithio gyda phobl newydd.

Dw i'n teimlo bod gan Trafnidiaeth Cymru lawer o unigolion talentog yn gweithio yma, felly mi fydd yn dda dysgu oddi wrthyn nhw nhw wrth weithio gyda nhw hefyd.

A dros y ddwy flynedd nesaf dw i'n teimlo y byddaf yn cael amrywiaeth eang o brofiadau mewn amrywiol sectorau o fewn yr adran gyllid.

Dw i'n bendant mwyaf edrych ymlaen at yr her cyffroes a'r potensial i symud ymlaen a dysgu, a dw i'n hoff o her.

Dw i'n bendant yn gweld fy hun yma yn y tymor hir.

Maen nhw eisiau ichi symud ymlaen.

Maen nhw eisiau ichi ddod yn arweinwyr y dyfodol, felly credaf fod hynny yn dda iawn.