Neidio i'r cynnwys

Hygyrchedd

Datganiad hygyrchedd ar gyfer trcgyrfaoeddcynnar.cymru a tfwearlycareers.wales

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i barth trcgyrfaoeddcynnar.cymru a tfwearlycareers.wales.

Caiff y wefan hon ei chynnal gan Trafnidiaeth Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau, heblaw am y nodwedd yr holiadur
  • chwyddo’r testun i hyd at 300% heb iddo ddiflannu oddi ar y sgrin
  • gwe-lywio drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig, heblaw am gau’r holiadur
  • gwe-lywio drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais, heblaw am ddewis opsiynau ar gyfer yr holiadur
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor hawdd i’w ddeall â phosibl.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Gwyddom nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • Ni ellir cymhwyso steilio personol i unrhyw gopi sy’n rhan o droshaen yr holiadur
  • Efallai na fydd trefn tabiau’r wefan yn hollol resymegol oherwydd mai’r rhybudd cwci yw’r elfen olaf yn y drefn ffocws
  • Nid yw defnyddwyr sy’n gwe-lywio gydag iOS VoiceOver yn gallu rhyngweithio gyda’r nodwedd ‘Sgwrs fyw’
  • Nid yw defnyddwyr sy’n gwe-lywio gyda Dragon Naturally Speaking yn gallu rhyngweithio gyda’r nodwedd yr holiadur
  • Nid yw defnyddwyr sy’n gwe-lywio gyda bysellfwrdd yn gallu rhyngweithio gyda’r botwm cau sy’n rhan o’r nodwedd yr holiadur
  • Mae defnyddwyr sy’n gwe-lywio gyda MacOS VoiceOver yn ffocysu ar gynnwys ar y dudalen gefndir cyn ffocysu ar yr holiadur

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd ar y wefan hon

Rydym bob amser am wneud y wefan hon yn haws ei defnyddio. Os gwelwch unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os byddwch o’r farn nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, e-bostiwch: webteam@tfw.wales

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Nid yw’r wefan hon yn cydymffurfio â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) fersiwn 2.1, yn sgil yr achoson o ddiffyg cydymffurfio sydd wedi’u rhestru isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfiaeth â’r rheoliadau hygyrchedd

Nid yw defnyddwyr sy’n gwe-lywio’r safle gydag iOS VoiceOver yn gallu rhyngweithio gyda’r nodwedd ‘Sgwrs fyw’. Mae hwn yn fethiant i fodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1, 4.1.2 Enw, Pwrpas, Gwerth.

Rydym am drwsio hyn erbyn: Mehefin 2021

Baich anghymesur

Rydym wedi asesu’r gost o drwsio problemau gyda’r nodwedd yr holiadur a’r Rhybudd Cwcis. Credwn y byddai gwneud hynny nawr yn faich anghymesur o ran rheoleiddio hygyrchedd. Byddwn yn cynnal asesiad arall pan fydd y contractau cyflenwi perthnasol yn cael eu hadnewyddu, sy’n debygol o fod ym mis Mehefin 2021.

Rydym wedi manylu am y materion yn ymwneud â hyn isod:

Nid yw defnyddwyr yn gallu cymhwyso steilio personol i’r nodwedd yr holiadur. Mae hwn yn fethiant i fodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1, 1.4.12 Bylchu’r Testun.

Nid yw defnyddwyr yn gallu defnyddio’r botwm cau sy’n rhan o’r nodwedd yr holiadur gyda bysellfwrdd yn unig. Mae hwn yn fethiant i fodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1, 2.1.1 Bysellfwrdd.

Nid yw defnyddwyr cyfarpar adnabod llais yn gallu rhyngweithio gyda’r opsiynau yr holiadur ar yr hafan. Mae hwn yn fethiant i fodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1, 4.1.2 Enw, Pwrpas, Gwerth.

Mae defnyddwyr sy’n gwe-lywio’r safle gyda MacOS VoiceOver yn cael eu tabio i gynnwys y tu ôl i droshaen yr holiadur cyn ffocysu ar y droshaen. Mae hwn yn fethiant i fodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1, 2.4.3 Trefn Ffocws.

Rhybudd cwcis y safle yw’r elfen olaf yn y drefn ffocws wrth we-lywio’r safle gyda bysellfwrdd yn unig. Mae hwn yn fethiant i fodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1, 2.4.3 Trefn Ffocws.

Llunio’r datganiad hygyrchedd hwn

Lluniwyd y datganiad hygyrchedd hwn ar 27/10/20. Cafodd ei ddiweddaru ddiwethaf ar 23/11/20.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 27/10/20. Cynhaliwyd y prawf gan Zoonou. Defnyddiwyd y dull gweithredu hwn i benderfynu ar sampl o dudalennau i brofi WCAG-EM.