Abbie
Cynllun dadansoddi risg
Prifysgol Caerdydd
Gradd mewn Mathemateg Ariannol (gyda Blwyddyn Lleoliad Proffesiynol)
Mae gen i ddiddordeb erioed yn y ffordd y gall mathemateg ragweld digwyddiadau yn y dyfodol a mesur risgiau. Felly roedd y cynllun hwn yn gweddu i’r dim. Roeddwn yn teimlo’n gyffrous iawn hefyd am y syniad y bydd TrC yn fy helpu i ddod yn arweinydd yn y dyfodol. Bydd yn rhoi rhywbeth arall i mi weithio tuag ato a'i gyflawni – rwy'n edrych ymlaen yn fawr at yr her! A diolch i weithio hyblyg, rwy'n gwybod y gallaf ddatblygu fy ngyrfa a chael cyfle i fynd i’r traeth gyda fy nau gi. Dyma'r gorau o'r ddau fyd.
Ali
Cynllun cyllid
Prifysgol Caerdydd
Gradd mewn Cyfrifeg a Chyllid
Un o'r pethau pwysicaf am TrC yw'r diwylliant. Cewch fod yn chi'ch hun! Dyna beth mae TrC eisiau ei weld. Mae'n ymwneud â chael llawer o wahanol bobl sy'n dod â llawer o safbwyntiau gwahanol. Pan fyddwch chi'n dechrau'r broses ymgeisio, meddyliwch sut y gallwch chi wneud eich marc a sut rydych chi'n unigryw. Mae hynny'n bwysig iawn. Peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau. Rydw i wedi cael cymaint o gefnogaeth drwy gydol y broses – mae pawb yn gyfeillgar iawn ac yn fwy na pharod i helpu. Felly cofiwch ofyn!
Craig
Cynllun dadansoddi risg
Prifysgol Glasgow Caledonian,
Gradd mewn Rheoli Risg
Roeddwn am weithio ar brosiectau a fyddai'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fusnesau, cymunedau a phobl Cymru. Cynigiodd TrC hynny i gyd, yn ogystal â'r cyfle i ddefnyddio fy ngradd mewn Rheoli Risg. Dydw i ddim wedi dechrau eto, ond mae'r broses gynefino wedi bod yn anhygoel. Rydw i'n teimlo fy mod i wedi cael croeso o'r cychwyn cyntaf. Rydych chi’n cael y cyfle i gwrdd â'r graddedigion eraill sy'n ymuno hefyd, felly rydw i eisoes yn adnabod rhai o'r bobl y byddaf yn gweithio gyda nhw. Mae'n ddechrau gwych hyd yn hyn!
Liam
Cynllun Peirianneg
Prifysgol De Cymru
Gradd Meistr mewn Peirianneg Sifil (MEng)
Rwy'n hoffi'r modd y mae'r cynllun mor gynhwysfawr. Rydych chi’n cael cyfle i weithio ar draws gwahanol feysydd yn y sefydliad, gan ddatblygu’ch sgiliau a derbyn hyfforddiant wrth wneud hynny. Er fy mod wedi adleoli ar gyfer fy ngradd ac ehangu fy ngorwelion, roeddwn i’n dal i fod braidd yn betrusgar wrth wneud cais. Yn ffodus, fe wnaeth pawb yn TrC leddfu fy mhryderon a thawelu fy meddwl. Felly gyda'r lefel honno o gefnogaeth (yn ogystal â bagiau te a Chacennau Jaffa), rwy'n teimlo'n barod i wynebu her newydd!
Tom
Cynllun Peirianneg
UWE Bryste
Gradd mewn Peirianneg Sifil ac Amgylcheddol
Rwy'n hoffi bod yn rhan o dîm, felly roeddwn i wrth fy modd â natur gydweithredol TrC. Rwy'n chwarae rygbi i dîm yng Nghaerdydd, felly rwy'n gwybod fy mod ar fy ngorau pan fyddaf yn gweithio gydag eraill. Y teimlad hwnnw o fod yn rhan o rywbeth mwy. Mae'n debyg mai dyna pam y cefais fy ysbrydoli gymaint gan y prosiectau yn TrC. Ac mae'r ffaith eu bod nhw’n ymdrechu i fod yn garbon niwtral yn y dyfodol yn fonws enfawr. Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr sut maen nhw'n edrych i'r dyfodol yn gyson ac yn ceisio gwella.