Eich gweithgareddau o ddydd i ddydd
Gan weithio'n agos gyda gwahanol dimau, byddwch yn helpu i ddarparu amrywiaeth eang o brosiectau a gweithgareddau cyfathrebu ac ymgysylltu. Byddwch yn sicrhau bod prosiectau'n cael eu cyflwyno mewn modd amserol a chost-effeithiol, gan ganolbwyntio ar gyflawni eich prosiect personol eich hun hefyd.
Drwy gydol y cwrs dwy flynedd hwn, byddwch yn gweithio tuag at ennill cymhwyster proffesiynol. Fel rhan o'ch dysgu, byddwch yn cymryd rhan mewn chwe gweithdy datblygu ymarferol a phedair sesiwn gweminar. Hefyd, byddwch yn cyfuno eich dysgu academaidd ac ymarferol i gyflawni prosiect personol sy'n cyfrannu at TrC.
Yr hyn fydd ei angen arnoch
I wneud cais, bydd angen gradd arnoch yn un o'r meysydd canlynol: brandio, astudiaethau busnes, cyfathrebu, llenyddiaeth Saesneg, seicoleg marchnata, y cyfryngau, gwleidyddiaeth neu faterion cyhoeddus. Bydd gennych ddiddordeb mewn trafnidiaeth a chynaliadwyedd hefyd a byddwch yn teimlo'n hyderus wrth gyflawni nifer o brosiectau. Drwy fod yn greadigol, yn rhagweithiol ac yn drefnus, cewch y gorau o'r cynllun hwn.
Mae profiad gwaith neu wirfoddoli mewn maes cysylltiedig yn ddymunol, yn ogystal â sgiliau yn y Gymraeg.